Llys y Goron Birmingham
Mae dyn 101 oed wedi gwadu cyflawni cyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn tri o blant.

Credir mai Ralph Clarke yw’r person hynaf i wynebu achos llys yn hanes cyfreithiol Prydain.

Yn Llys y Goron Birmingham heddiw fe wnaeth y cyn-yrrwr lori o Erdington, Birmingham bledio’n ddieuog i 31 o gyhuddiadau.

Mae honiadau fod Ralph Clarke wedi cyflawni 17 o ymosodiadau anweddus, 12 trosedd anweddus gyda phlentyn, a dau achos difrifol o droseddau rhywiol rhwng 1974 a 1983.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ond fe fydd chwech o dystion yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos a fydd yn dechrau ar Ragfyr 5 gan barhau am tua phythefnos.