Mae dynes 22 oed o Sir Gaer wedi marw ar ôl cymryd cyffur MDMA mewn clwb nos yn Crewe.

Dydy’r ddynes ddim wedi cael ei henwi.

Cafodd hi ei chludo o glwb The Box i ysbyty Leighton yn Crewe, lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysbyty am 1.50 fore Sul, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad.