Cafodd nifer o bobol eu hanafu mewn achos o saethu at fws oedd yn cludo teithwyr o Weriniaeth Tsiec drwy dde-ddwyrain Ffrainc nos Wener.

Roedd y bws yn teithio ar hyd yr A7 ar ei ffordd adref o Sbaen.

Cafodd chwech o bobol fân anafiadau, gan gynnwys nifer o blant, a chafodd un person ei anafu’n ddifrifol.

Tarodd un bwled ffenest ym mlaen y bws ac un arall yng nghefn y bws.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb nac wedi cael ei arestio.