Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn o Fryste gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghleitha yn Sir Fynwy nos Sadwrn.

Roedd beic modur Honda glas a Range Rover mewn gwrthdrawiad ger y Clytha Arms ar Ffordd Groesonen am oddeutu 7.30 o’r gloch.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle, a chafodd gyrrwr y Range Rover ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae teulu’r dyn fu farw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.