Fe fydd cynhadledd ym Mangor y penwythnos nesaf yn tafod manteision trawsieithu – neu ddefnyddio dwy iaith ar lawr yr ystafell ddosbarth wrth rannu gwybodaeth neu syniadau newydd.
Hanfod trawsieithu yw fod plant yn gallu dysgu am bwnc neu ei drafod mewn un iaith ac yna ysgrifennu amdano mewn iaith arall.
Yn ôl arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor, mae’n ffordd o gryfhau’r ddwy iaith ac o ddyfnhau dealltwriaeth o’r pwnc newydd.
Term Cen Williams o Brifysgol Bangor yw ‘trawsieithu’ ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y byd addysg.
Mae’r drafodaeth yn deillio o brofion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gafodd eu cynnal yng Nghymru ar gyfer plant rhwng 6-14 oed.
Yn ystod cynhadledd ‘Dwyieithrwydd mewn Addysg’, sy’n cael ei noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe fydd arbenigwyr yn cyflwyno argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod plant yn cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o’u hieithoedd.
Yn ôl ymchwil gan staff ym Mhrifysgol Bangor, mae perthynas gymhleth rhwng dwyieithrwydd a ffactorau megis oedran a hyfedredd iaith, ac maen nhw’n dadlau y gall dwyeithrwydd gynnig manteision mewn amryw o feysydd.
‘Mater o bwys cynyddol’
Bydd yr Athro Ofelia Garcia yn cael ei chroesawu i’r gynhadledd i drafod y pwnc yn y Ddarlith Baker gyntaf yn enw un o academyddion mwyaf blaenllaw Ysgol Addysg y Brifysgol.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, yr Athro Enlli Thomas: “Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r maint hwn sy’n dathlu enw rhyngwladol Prifysgol Bangor fel arweinydd ym maes addysg ddwyieithog gael ei gynnal yng nghartref un o ddarparwyr mwyaf llwyddiannus y byd ym maes addysg ddwyieithog.
“Mae’r defnydd o fwy nag un iaith addysgu mewn rhaglen addysgol benodol yn fater sydd o bwys cynyddol mewn llawer o ysgolion ledled y byd ac mae ystod ac ansawdd yr ymchwil a gyflwynir yn y gynhadledd yn brawf o’r diddordeb byd-eang yn y maes hwn.”