Cheryl James - un o bedwar recriwt i farw yn Deepcut mewn cyfnod o saith mlynedd
Fe all mai cynnal ymchwiliad cyhoeddus fyddai’r ffordd orau i gael at y gwir am wersyll hyfforddi Deepcut, meddai pennaeth y Fyddin.

Mae’r Cadfridog Syr Nick Carter wedi ymddiheuro’n ddiatal i rieni’r Preifat Cheryl James, wedi i gwest i’w marwolaeth ddod i’r casgliad ei bod wedi’i lladd ei hun. Mae’r cwest hefyd wedi beirniadu’r gofal oedd yn cael ei roi i recriwtiaid ifanc ym marics Deepcut.

Mae teulu Cheryl James, o Langollen, wedi addo parhau â’u brwydr am gyfiawnder, ac wedi mynegi eu “siom anferth” yn y dyfarniad sy’n dweud iddi farw o ganlyniad i hunanladdiad.

“Mae angen i’r lluoedd arfog gael at wraidd y gwirionedd,” meddai’r Cadfridog Carter ar raglen Today, Radio 4 heddiw. “Os mai trwy ymchwiliad cyhoeddus y mae gwneud hynny, yna, dyna’r ffordd y dylen ni ei throedio.

“Rydw i wedi ymrwymo i wneud y fyddin yn sefydliad cynhwysol,” meddai wedyn, ac fe fydd y fyddin yn dysgu gwersi o’r cwest hwn.”

Mewn erthygl ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw, mae pennaeth y fyddin yn dweud ei fod, fel tad ei hun, yn teimlo marwolaeth Cheryl James. Mae’n ymddiheuro i rieni’r milwr am y diffygion yn y gofal ym marics Deepcut.

Wedi gwrando ar fwy na 100 o dystion tros gyfnod o dri mis, fe ddaeth y crwner, Brian Barker QC, fod Cheryl James, a oedd yn 18 oed ar y pryd, wedi marw o ganlyniad i gael ei saethu, yn anfwriadol, gan fwled o’i reiffl ei hun yn Deepcut.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff ger y fynedfa ar Dachwedd 27, 1995, nepell o lle’r oedd wedi bod yn gwarchod y safle yn Surrey. Roedd Cheryl James yn un o bedwar recriwt a fu farw yno dros gyfnod o saith mlynedd.