Theresa May - amddiffyn record y Llywodraeth (llun y Blaid Geidwadol)
Mae Llywodraeth Prydain wedi methu ag anfon “tref fechan” o droseddwyr tramor yn ôl i’w gwledydd gwreiddiol, meddai pwyllgor yn San Steffan.

Er bod y mwyafrif yn dod o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd y Llywodraeth wedi methu â manteisio ar gytundebau i’w hanfon o wledydd Prydain, meddai’r Pwyllgor Materion Cartref.

Mewn adroddiad newydd ar fewnfudo, maen nhw’n rhybuddio y gallai’r methiant hwnnw danseilio ffydd pobol yn yr Undeb, gyda chyfanswm o 5,789 wedi aros yng ngwledydd Prydain ar ôl dod o’r carchar.

Mwy nag erioed

Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, roedd mwy na 5,600 o droseddwyr tramor wedi eu hanfon o’r Deyrnas Unedig yn 2015-16 – y ffigwr ucha’ ers dechrau cadw cofnod yn 2009.

Roedd hynny’n cynnwys mwy nag erioed o droseddwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Mae’r tair gwlad gyda’r mwya’ o droseddwyr sy’n rhydd yng ngwledydd Prydain i gyd yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd – Gwlad Pwyl (983), Iwerddon (764) a Romania (635).