Un o'r sioau sy'n cau (Mtayor848 CCA 4.0)
Mae gweithwyr BHS yng Nghymru yn aros i glywed pa mor hir y bydd y siopau’n aros yn agored i werthu’r stoc sydd ar ôl.
Mae’n bosib y bydd rhai siopau yn cael eu gwerthu fesul un wrth i’r cwmni ddod i ben – ond does dim manylion eto.
Yn y cyfamser, mae un o gyn-weithwyr BHS wedi lansio ymgyrch ar-lein yn galw ar y cyn-berchennog Philip Green i ddadwneud y golled ym mhensiwn miloedd o weithwyr a chyn-weithwyr.
Siopau Cymru
Mae cannoedd o swyddi yn y fantol yng Nghymru mewn chwech o siopau ar ôl i’r gweinyddwyr swyddogol fethu â chael cwsmer i brynu’r cwmni.
Mae siopau Cymreig y cwmni yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Bae Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam a Llandudno.
Ledled gwledydd Prydain, fe fydd 163 o siopau’r stryd fawr yn cau yn ystod yr wythnosau nesa’ ac fe fydd tuag 11,000 o bobol yn colli eu gwaith.
Yn ystod eu cyfnod yn berchen ar y cwmni, roedd Philip Green a’i deulu wedi tynnu cannoedd o filiynau o bunnoedd o’r busnes – swm sy’n agos iawn at y bwlch yn y gronfa bensiwn.