Jeremy Corbyn yn rhybuyddio Cymru (Rwedland CCA4.0)
Fe fydd Cymru’n diodde’ mwy na’r un rhan arall o wledydd Prydain os bydd yna bleidlais Brexit yn y refferendwm ym mis Mehefin, yn ôl yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Ac yntau ar ei ffordd i Gaerdydd i annerch cyfarfod mawr heddiw, fe ddywedodd bod tua 200,000 o swyddi yng Nghymru’n gysylltiedig â masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae 600 o gwmnïau o Gymru’n allforio i’r Undeb, meddai, a hynny werth tua £5.8 biliwn i’r economi.

Ond roedd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd aelodaeth o ran diogelu hawliau gweithwyr a menywod.

Beth ddywedodd Corbyn

“Pe bai gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe fyddai’r effaith yn cael ei deimlo yma yn fwy nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig ac fe allai fod yn ddinistriol.

“Tra bod llawer o ansicrwydd am beth fyddia’n digwydd os bydd Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, yr un peth sicr yw mai llywodraeth Dorïaidd sy’n eiddgar i chwalu hawliau gweithwyr ac sydd wedi chwalu cyllideb Cymru a fyddai’n trafod amodau gadael.”