Nicola Sturgeon - 'mandad democrataidd' (Llun llywodraeth agored)
Fe fydd gan Brif Weinidog yr Alban yr hawl i alw ail refferendwm annibyniaeth os bydd Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna farn ei rhagflaenydd, Alex Salmond, wrth ddweud y byddai’r Alban wedyn yn cael ei gorfodi i adael yn erbyn ei dymuniad.

Ar raglen radio LBC, roedd yn mynnu y byddai gan Nicola Sturgeon “fandad democrataidd” i alw pleidlais arall – ar ôl dweud adeg yr Etholiad Cyffredinol y byddai’n galw refferendwm pe bai “newid go iawn” yn amgylchiadau’r Alban.

‘Newid go iawn’

Ar hyn o bryd, mae polau piniwn yn yr Alban yn awgrymu bod pobol yno eisiau aros, tra bod y ddwy ochr yn agos iawn yng ngweddill gwledydd Prydain.

“Ddwy flynedd yn ôl fe ddywedodd yr ochr Na yn refferendwm yr Alban y byddai pleidlais Ie yn peryglu ein lle yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Alex Salmond.

“Yn amlwg, fe fyddai’n newid go iawn mewn amgylchiadau pe bai’r Alban yn pleidleisio i Aros a Lloegr yn pleidleisio Allan a’r Alban yn cael ei thynnu allan yn erbyn ein hewyllys.”