Rachel a Nyomi Fee (Llun: PA)
Mae mam a’i phartner sifil wedi’u cael yn euog o lofruddio ei mab dwyflwydd oed.

Cafwyd hyd i Liam Fee yn farw yn ei gartref ger Glenrothes yn Fife ar 22 Mawrth 2014.

Fe wnaeth ei fam, Rachel Fee 31 oed, a’i phartner, Nyomi Fee 29 oed, wadu lladd y bachgen.

Ond, yn dilyn achos saith wythnos yn yr Uchel Lys yn Livingston fe’u cafwyd yn euog.

Mae’r ddwy wedi’u cael yn euog o gam-drin dau fachgen ifanc arall hefyd.

Ystafell dywyll llawn ‘nadroedd a llygod’

Cafodd y ddwy eu dyfarnu’n euog o wyth cyhuddiad yn eu herbyn.

Roedd y rheiny’n cynnwys llofruddio, ymosod ar, ac esgeuluso Liam Fee.

Clywodd y llys eu bod wedi ei adael am gyfnodau hir gan fethu â darparu ymarfer corff nac anogaeth feddyliol ddigonol ar ei gyfer.

Yna, cyn ei farwolaeth, fe fethon nhw â darparu’r sylw meddygol oedd ei angen arno ar ol iddo dorri ei goes ac anafu’i fraich.

Fe wnaeth y rheithgor eu dyfarnu’n euog o bedwar cyhuddiad arall o gam-drin dau fachgen arall, ond ni ellir eu henwi am resymau cyfreithiol.

Roedd yr achosion hynny’n cynnwys gorfodi’r plant i gymryd cawodydd oer ar ôl gwlychu’r gwely, carcharu un mewn cawell roedden nhw wedi’i greu, a chlymu un arall yn noeth mewn ystafell dywyll lle’r oedd nadroedd a llygod mawr.

Tystiolaeth – ‘bwlch mawr’

Clywodd y llys fod Liam Fee wedi dioddef anafiadau i’w galon ar ôl grym trawma ar ei gorff.

Wrth i’r patholegydd ei archwilio wedi’i farwolaeth, fe ddaeth o hyd i fwy na 30 o anafiadau allanol hefyd, gan gynnwys toriadau yn rhan uchaf ei fraich a’i glun.

Wrth roi tystiolaeth, fe wnaeth y menywod gyfaddef i fethiannau difrifol o ran cymorth meddygol i Liam Fee.

Ond, fe wnaethon nhw wadu cyhuddiad o lofruddio, gan roi’r bai ar y bachgen ifanc arall gan honni iddo ymddwyn yn ‘rhywiol’ tuag at Liam Fee.

Roedd y dystiolaeth hefyd yn amlygu bwlch mawr yn yr amser y gwnaethon nhw alw’r gwasanaethau brys ar ôl deall fod y bachgen wedi marw.