Mae dyn wedi marw ar ôl ymosodiad arno gan gi yn ei gartref yn Cumbria.

Mae Heddlu Cumbria wedi cadarnhau bod dyn 45 oed wedi cael ei ladd gan gi mewn eiddo yn Rhodfa Robert Owen, Cleator Moor bnawn dydd Sul.

Cafodd y ci ei ddifa.

Cafodd tri chi arall eu symud o’r eiddo ac fe fyddan nhw’n cael eu hasesu gan swyddog heddlu arbenigol.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i’r eiddo tua 2yp yn dilyn adroddiadau bod ci yn ymosod ar ddyn. Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.