Mae’r banc ynni cyntaf i Gymru yn cael ei lansio yng Nghaerdydd heddiw.

Bwriad y cynllun gan yr Ymddiriedolaeth Trussell a’r cyflenwr ynni npower yw cynnig gwerth pythefnos o dalebau ynni i bobol sydd eisoes yn gymwys i ddefnyddio banciau bwyd yn y brif ddinas.

Mae’r talebau’n amrywio o ran gwerth, a hynny o £30 ym misoedd yr haf i £49 yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae pobol sydd wedi’u cyfeirio at fanciau bwyd ac yn defnyddio mesuryddion talu o flaen llaw gan npower neu unrhyw gyflenwr arall yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Mae’r cynllun eisoes wedi’i dreialu mewn ardaloedd yn Lloegr y llynedd, ac wrth gyhoeddi y byddai’r cynllun yn cael ei ymestyn ym mis Ebrill, dywedodd Jenny Saunders, Prif Weithredwr National Energy Action (NEA) y byddai’n gwneud “gwahaniaeth mawr i deuluoedd” sy’n gorfod penderfynu rhwng “bwyta a chadw’n gynnes.”