Yn dilyn y newyddion y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn colli traean o’i gyllid, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r corff yn uniongyrchol.
Cyhoeddodd y Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW) heddiw y bydd y Coleg yn cael £6m ganddo ar gyfer 2016/17, yn dilyn toriadau i arian y Cyngor ei hun.
Er bod y toriad o £11m yng nghyllideb HEFCW yn llai na’r £42m yr oedd yn ei ddisgwyl mae wedi gorfod torri’n ôl ar ei wariant, sydd hefyd yn golygu dod â chymorth ariannol i gyrsiau ôl-radd rhan amser i ben.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r toriadau i’r Coleg, gan eu galw’n “gwbl anghymesur” â’r toriad o 8% mae’r sector addysg uwch yn ei wynebu’n gyffredinol.
Ysgrifennu at Kirsty Williams
Mae’r mudiad bellach wedi ysgrifennu at Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ac unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, yn gofyn i’r Llywodraeth gyllido’r Coleg yn uniongyrchol.
“Mae’r toriadau gwbl anghymesur ac yn groes i ymrwymiad eich plaid yn yr etholiad i ‘ddiogelu’i gyllid’”, meddai’r llythyr.
Roedd maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiadau’r Cynulliad yn nodi y bydd yn “ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector Addysg Bellach…. wrth ddatblygu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg, a diogelu’i gyllid”.
Mae Cymdeithas yr Iaith felly’n gofyn i Kirsty Williams weithredu addewid ei phlaid, drwy “dderbyn cyfrifoldeb uniongyrchol am ddatblygu’r Coleg Cymraeg gan ei gyllido’n uniongyrchol er mwyn diogelu ei gyllid.”
“Ac, fel ymrwymodd eich plaid yn yr etholiad, galwn arnoch hefyd i ddatblygu rôl y Coleg hefyd trwy roi iddo gyfrifoldeb dros addysg bellach a galwedigaethol a’r adnoddau i gyflawni’r gwaith.”
‘Cynnal y momentwm’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mater i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw sut y mae’n dyrannu ei adnoddau.
“Hyderwn y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dysgu cyfrwng Cymraeg yn y sector, yn parhau i gael ei gyllido ar lefel a fydd yn cynnal y momentwm cyfredol.”