Mae Llywodraeth Lafur Cymru a’r wrthblaid, Plaid Cymru, wedi dechrau ar eu hymgyrch “adeiladol” ar y cyd i gadw Cymru’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mis yn unig sydd tan y refferendwm ar 23 Mehefin ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, a bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn cydweithio ar gyfer ymgyrch i aros.
“Mae llawer yn y fantol i Gymru dros y misoedd nesaf, yn enwedig y goblygiadau i’n gwlad pe bai’r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai eu datganiad ar y cyd.
Roedd y ddwy blaid wedi dod at dir cyffredin yn ystod eu trafodaethau ar flaenoriaethau’r Cynulliad newydd, yn dilyn pleidlais gyfartal rhwng Carwyn Jones a Leanne Wood i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Dywedodd y datganiad fod “Llafur yng Nghymru a Phlaid Cymru yn gytûn fod Cymru’n gryfach, yn saffach ac ar ei hennill yn Ewrop.”
Yn ôl Llafur a Phlaid Cymru, mae buddiannau i Gymru o fod yn rhan o’r UE, sy’n cynnwys hawliau yn y gweithle a mynediad i’r farchnad sengl i fusnesau’r wlad.
“Gyda’n gilydd, rydym yn annog pobl i bleidleisio i aros ar Fehefin 23.”
‘Dyfodol gwell’ heb Ewrop – Andrew RT
Fodd bynnag, mae arweinydd y drydedd blaid fwyaf yn y Cynulliad, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi datgan ei fwriad i bleidleisio dros adael yr Undeb.
“Rwy’n credu y bydd gennym ni ddyfodol gwell fel rhan o berthynas economaidd fwy rhydd gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Andrew RT Davies ym mis Chwefror.