Seo Linn, y band Gwyddeleg (Llun: PA)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd eu cân swyddogol nhw ar gyfer Ewro 2016 yn cael ei chanu yn y Wyddeleg.

Yn ôl y band sydd wedi’i chyfansoddi, y gobaith fydd clywed y cefnogwyr yn ei chanu ar y terasau yn ystod gemau’r tîm a dangos i’r byd fod yr iaith yn un “cŵl a modern”.

Mae Seo Linn wedi dod yn adnabyddus ar y we dros y blynyddoedd diwethaf am gyfieithu caneuon poblogaidd fel ‘Wake Me Up’ gan Avicii, a ‘Thinking Out Loud’ gan Ed Sheeran, i’r Wyddeleg.

Ac fe fydd cân y band ar gyfer yr Ewros, ‘The Irish Roar’, yn benthyg tiwn un o’r caneuon Gwyddelig mwyaf poblogaidd ac adnabyddus, ‘Oro Se do Bheatha ‘Bhaile’.

‘Iaith agored’

Fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed glip byr o’r gân ar Twitter dros y penwythnos, ac mae disgwyl iddi gael ei chlywed yn llawn am y tro cyntaf pan fydd Iwerddon yn herio’r Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar ddydd Gwener.

“Mae’n rhaid i ni gofio gyda phrosiect fel hwn ein bod ni’n gwasanaethu pobol Iwerddon i gyd,” meddai Stiofan O Fearail, brif ganwr y band.

“Roedden ni eisiau i’r gân fod mor agored â phosib i bawb ac rydyn ni’n gwybod fod pawb, wel, llawer o bobol yn Iwerddon, yn gyfarwydd â ‘Oro Se do Bheatha ‘Bhaile’.

Ychwanegodd y byddai’n grêt clywed cefnogwyr y tîm yn ei chanu yn y twrnament.

“Rydyn ni jyst eisiau i’r iaith Wyddeleg ymddangos fel un agored, ei fod e’n rhywbeth y gall pobol fwynhau.”

Caneuon y Cymry

Mae Cymru hefyd wedi cyhoeddi cân swyddogol ar gyfer yr Ewros, sydd yn dechrau mewn llai na thair wythnos, wedi cael ei chanu gan y Manic Street Preachers.

‘Come on Wales’ yw enw’r gân, sydd yn cael ei chanu yn y Saesneg yn unig, ac roedd chwaraewyr y garfan wedi helpu’r Manics i’w recordio hi nôl ym mis Mawrth.

Ond mae nifer o ganeuon answyddogol wedi cael eu rhyddhau hefyd yn arwain at y twrnament, gan gynnwys rhai Cymraeg fel ‘Bing Bong’ gan y Super Furry Animals, ‘Hogia Ni’ gan Gwerinos ac Yws Gwynedd, ‘Mint Sôs’ gan Y Sybs a ‘Dyddiau Coch’ gan Tigana.

Mae fersiwn newydd o gân Yr Anrhefn, ‘Rhedeg i Paris’, hefyd wedi cael ei recordio gan Candelas – mae prif leisydd y grŵp, Osian Williams, yn gefnder i golwr Cymru Owain Fôn Williams.