Mae adroddiadau’n awgrymu bod Man U ar fin penodi Jose Mourinho yn olynydd i Louis van Gaal, ddiwrnod yn unig ar ôl iddyn nhw godi Cwpan yr FA.

Hwn oedd tlws cyntaf Man U ers i Syr Alex Ferguson ymddeol dair blynedd yn ôl.

Ond fe allai Mourinho arwyddo cytundeb tair blynedd yn y dyddiau nesaf.

Dydy Mourinho, cyn-reolwr Chelsea, ddim wedi gwneud sylw am yr adroddiadau, ond mae capten tîm pêl-droed Man U, Wayne Rooney wedi amddiffyn van Gaal.

Dywedodd y byddai’n “annheg” pe bai’r Iseldirwr yn colli ei swydd.

Er iddyn nhw golli allan ar le yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, enillodd Man U Gwpan yr FA brynhawn ddoe drwy guro Crystal Palace o 2-1 ar ôl amser ychwanegol yn Wembley.

Dydy Man U ddim wedi gwneud sylw am swydd y rheolwr.