Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Tâf nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Abercwmboi am 7.48yh.

Does dim newyddion am gyflwr y dyn ar hyn o bryd, na chwaith beth achosodd y tân.