Ni fydd lle i waharddiad ar e-sigarets yn y Bil Iechyd Cyhoeddus arfaethedig.

Daeth cadarnhad gan Brif Weinidog Cymru, wrth iddo ymddangos ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fore Sul.

Ceisiodd Llywodraeth Lafur Cymru basio’r ddeddfwriaeth ar ddiwrnod olaf tymor diwethaf y Cynulliad, ond fe gafodd ei wrthwynebu gan Blaid Cymru yn dilyn beirniadaeth Leighton Andrews o Leanne Wood.

Ar y pryd, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas y byddai’r Llywodraeth Lafur yn difaru’r sylwadau bod Leanne Wood yn “cheap date”.

Roedd y Bil cyntaf hefyd yn cynnwys rheolau newydd ar datŵio.

Dywedodd Carwyn Jones nad oes “diben taro ein pennau yn erbyn wal frics”.