Mae'r ras yn gweld cystadleuwyr yn teithio trwy Gaerdydd
Fe fydd 12,000 o gystadleuwyr yn gorfod teithio 87 milltir yn ystod ras Velothon Cymru ddydd Sul.
Dechreuodd y ras am 9 o’r gloch ac fe fydd yn gweld y cystadleuwyr yn teithio trwy Gasnewydd, Bannau Brycheiniog, Pontypŵl, Brynbuga, Trecelyn a Chaerffili.
Fe fydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod y ras, ac mae’r trefnwyr yn awyddus i sicrhau nad ydyn nhw’n derbyn yr un feirniadaeth ag a gawson nhw’r llynedd yn sgil yr oedi i deithwyr a diffyg gwybodaeth am y digwyddiad, ynghyd â’r problemau a gawson nhw oherwydd bod pinnau wedi cael eu gadael ar y ffyrdd.
Ymhlith y cystadleuwyr mae Stephen Williams o Gasnewydd a Yanto Barker o Geredigion.
Roedd Williams yn gystadleuydd yn y Tour de Yorkshire fis diwethaf, tra bod Barker yn gobeithio creu argraff ddydd Sul.