James Collins (canol) yn dathlu yn yr ystafell newid gydag Aaron Ramsey a Gareth Bale ar ol i Gymru sicrhau eu lle yn Ewro 2016 (llun:CBDC)
Mae James Collins wedi dweud ei fod yn benderfynol o ddangos ei fod yn haeddu lle yn nhîm Cymru ar gyfer Ewro 2016, ar ôl tymor llwyddiannus â West Ham.

Dywedodd yr amddiffynnwr ei fod hefyd yn “llawn cyffro” ar gyfer y gemau sydd i ddod yn Ffrainc fis nesaf, gan fynnu bod “pob siawns” gan y crysau cochion o fynd yn bell yn y gystadleuaeth.

Dim ond unwaith y dechreuodd Collins gêm dros Gymru yn ystod eu hymgyrch ragbrofol lwyddiannus fodd bynnag, a hynny yn y fuddugoliaeth o 3-0 dros Israel llynedd.

Ond mae wedi cael tymor cyson dros West Ham, gan chwarae 25 gêm, ac fe fydd y cefnwr 32 oed yn un o aelodau mwyaf profiadol y garfan yn y twrnament.

Beth i’w ddisgwyl?

Serch hynny fe gyfaddefodd Collins, sydd â 46 cap dros Gymru, y byddai’r profiad yn un newydd i bob un o chwaraewyr Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp.

“Gobeithio y bydd sut nes i chwarae dros West Ham yng nghanol y tymor yn ddigon da i gael lle yn y tîm i mi,” meddai Collins wrth wefan ei glwb.

“Allai ddim aros ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop … does dim un ohonom ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl, ond ‘dyn ni’n llawn cyffro.

“Mae gennym ni dair gêm i’w chwarae ac fe fyddwn ni’n gobeithio dod allan o’r grŵp, a dw i’n meddwl bod pob cyfle gennym ni.”

Le crunch

Er mai Slofacia yw gwrthwynebwyr cyntaf y tîm – gêm sydd yn “rhaid ei hennill” yn ôl Collins – mae’r sylw mawr yn naturiol wedi cael ei gyfeirio tuag at yr ail gêm grŵp yn erbyn yr hen elyn.

“Dw i wedi cael ‘chydig o stic gan y bois Saesneg am y gêm Lloegr ‘na, ond y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gofyn am docynnau – mae’r galw amdanyn nhw’n wallgof!” ychwanegodd yr amddiffynnwr.

“Mae’n gêm enfawr petaen ni’n chwarae Lloegr mewn gêm gyfeillgar.

“Felly mae eu herio nhw mewn twrnament rhyngwladol hyd yn oed yn fwy, ac mae pawb yn edrych ‘mlaen.”