Mae dyn wedi’i gyhuddo o bedwar achos o geisio llofruddio, wedi i bedair gwraig gael eu trywanu mewn maes parcio archfarchnad yn Llundain.

Mae Ethem Aydin Orhon, 66, o Hampton, gorllewin London, hefyd wedi’i gyhuddo o un achos o fod ag arf peryglus yn ei feddiant, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Wimbledon heddiw.

Mae’r gwragedd, 53, 62, 67 a 71, yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, yn dilyn yr ymosodiadau ym maes parcio Sainsbury’s yn Hampton tua 10.35yb ddoe.

Mae’r pedair gwraig mewn cyflwr sefydlog, meddai Heddlu Scotland Yard.