Mae chwech o blismyn wedi’u saethu’n farw gan gydweithwyr yn Afghanistan.

Fe ddaeth cadarnhad gan bennaeth yr heddlu yn ardal Charchino i’r saethu ddigwydd yn ystod oriau mân bore Sadwrn yn rhanbarth ymfflamychol Uruzgan yn ne’r wlad.

Llwyddodd tri o swyddogion a oedd wedi troi eu gynnau ar eu cydweithwyr, i ddianc, gan fynd ag arfau a cherbydau efo nhw.

Yn nhalaith ddeheuol Zabul ddydd Iau, fe gafodd wyth o blismyn eu saethu’n farw gan gydweithiwr.

Y gred ydi mai’r Taliban, sydd wedi bod yn ymladd llywodraeth Kabul ers 15 mlynedd, sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau diweddara’.