Y Goruchaf Lys
Mae dyn adnabyddus sy’n briod wedi ennill ei achos yn y Goruchaf Lys i atal cael ei enwi mewn stori bapur newydd am weithgareddau rhywiol tu hwnt i’w briodas.

Dyfarnodd y llys y dylai’r Sun on Sunday gael ei wahardd rhag datgelu pwy yw’r gŵr a gâi ei gyfeirio ato fel ‘PJS’ yn y llys.

Roedd golygyddion The Sun on Sunday am gyhoeddi stori am “orchestion rhywiol” y dyn, sydd medden nhw, yn enwog.

Ond, fe gymerodd y dyn hwnnw gamau cyfreithiol yn erbyn y papur newydd, ac yn gynharach eleni fe gyflwynodd dau o farnwyr y Llys Apêl waharddeb ar y cyhoeddwyr rhag datgelu pwy oedd y gŵr.

Cafodd y dyfarniad hwnnw ei wyrdroi ym mis Ebrill cyn i gyfreithwyr ‘PJS’ wneud cais i’r achos gael ei glywed yn y Goruchaf Lys. Roedd y dyn yn dadlau bod ganddo hawl i breifatrwydd ac fe gytunodd y Goruchaf Lys gydag o.

Er hyn, mae’r dyfarniad yn gymwys yng Nghymru a Lloegr yn unig, ac mae adroddiadau eisoes wedi datgelu’r hanes yn yr Unol Daleithiau a’r Alban.