Gary Coleman Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio apêl am wybodaeth ar ôl i ddyn a oedd yn gweithio mewn adran gemeg prifysgol farw yn ei gartref mewn amgylchiadau dirgel.

Daethpwyd o hyd i gorff Gary Coleman yn ei fflat ar bedwerydd llawr Aquila House, Falcon Drive, Caerdydd, ychydig ar ôl 8yh yr hwyr nos Sul, Mai 15.

Roedd Gary Coleman, 41, yn gweithio yn adran gemeg Prifysgol Caerdydd a chafodd ei weld ddiwethaf gan gymydog yng nghyffiniau Aquila House ac fe wnaeth o siarad gyda pherthnasau ar y ffôn am tua 6.30yh nos Sadwrn.

Fodd bynnag, meddai’r heddlu bod yr hyn a ddigwyddodd rhwng hynny a’i farwolaeth yn parhau i fod yn ddirgelwch ar hyn o bryd.

Credir bod Gary Coleman yn treulio llawer o amser ar ei ben ei hun ac mae’r heddlu’n apelio am unrhyw un oedd yn ei adnabod i gysylltu â nhw.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Kath Pritchard: “Fel rhan o’n hymchwiliad, rydym yn ceisio darganfod beth oedd symudiadau Gary yn y dyddiau wnaeth arwain at ei farwolaeth. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi ei weld neu wedi siarad gydag o ar y nos Wener ac unrhyw amser arall dros y penwythnos.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 176,298.