Wedi i Brif Weinidog Cymru awgrymu ddoe y bydd Deddf Iaith Gymraeg newydd ymhlith blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am gynnwys hawl cyffredinol i’r Gymraeg yn y gyfraith.

Ar ôl iddo gael ei ailethol fel Prif Weinidog ddydd Mercher, awgrymodd Carwyn Jones mewn araith yn y Senedd fod Bil Iechyd y Cyhoedd a Deddf Iaith Gymraeg newydd ymhlith blaenoriaethau’r llywodraeth.

Ar hyn o bryd, mae Mesur y Gymraeg, a ddaeth i rym yn 2011, yn gosod  fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

‘Gwendidau’

Ond yn ôl Manon Elin o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae nifer o wendidau yn y Mesur presennol ac mae angen ei ehangu i gynnwys gweddill y sector breifat.

Rhybuddiodd hefyd y bydd Cymdeithas yr Iaith yn “sicrhau” fod y Llywodraeth yn creu deddfwriaeth fyddai’n canolbwyntio ar ffyniant y Gymraeg ac mai dyna pam fod angen hawl cyffredinol yn y Mesur

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn mynd i gryfhau ein cyfraith iaith. Yn sicr, mae nifer o wendidau yn y Mesur presennol, sy’n llawer rhy gymhleth ei natur.

“Fodd bynnag, mae angen deddfwriaeth er lles yr iaith a’i defnydd, nid cyfraith er lles y biwrocratiaid. Byddwn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ffyniant y Gymraeg ac ar gynyddu’r defnydd ohoni, nid gwneud bywyd yn haws i’r gwasanaeth sifil yn unig. Dyna pam mae angen hawl cyffredinol ar wyneb y Ddeddf, ynghyd â’i ehangu i gynnwys gweddill y sector breifat.”