Ffoaduriaid o Syria, Llun: PA
Mae pryderon dros fewnfudo sydd heb ei reoli wedi creu “gwleidyddiaeth llawn ofn” ynglŷn ag argyfwng y ffoaduriaid, meddai Angelina Jolie Pitt sydd wedi ymuno â’r ddadl ryngwladol.

Roedd yr actores, sy’n llysgennad i Uwch-Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR), yn siarad mewn digwyddiad arbennig oedd wedi’i drefnu gan y BBC.

Yn ôl yr enillydd Oscar, mae’r argyfwng yn “gyfnod unwaith mewn cenhedlaeth pan mae’n rhaid i wledydd uno” a bod y mater yn un ar gyfer pobol gyffredin yn ogystal ag awdurdodau.

“Mae hwn yn ddyletswydd arnom ni i gyd,” meddai wrth gynulleidfa yn theatr radio’r BBC.

Dywedodd ei bod hi’n cydnabod ofnau pobol sy’n teimlo’n “flin” gan y niferoedd sy’n croesi ffiniau ledled y byd, a bod y pryderon hynny wedi erydu hyder y cyhoedd yng ngallu sefydliadau i ddelio â’r mater.

“Mae wedi rhoi lle i gyfreithlondeb ffals i’r sawl sy’n hyrwyddo gwleidyddiaeth llawn ofn a gwahanu,” ychwanegodd.

“Mae wedi creu perygl o rasio i’r gwaelod, gyda gwledydd yn cystadlu i fod y mwyaf caled yn y gobaith o ddiogelu eu hunain waeth beth fo’r gost neu’r her i’w cymdogion ac er gwaethaf eu cyfrifoldebau rhyngwladol.”

Dywedodd y fam i chwech o blant fod pawb yn haeddu parch a bod gan bob person yr “hawl i sefyll ag urddas ar y blaned hon.”

“Anodd” clywed Donald Trump

Wrth drafod Donald Trump, un o ymgeiswyr y Gweriniaethwyr am yr arlywyddiaeth, dywedodd Angelina Jolie ei bod hi’n “anodd” clywed ei sylwadau am adeiladu wal rhwng America a Mecsico a’i alwadau i wahardd Mwslemiaid dros dro rhag dod i’r Unol Daleithiau.

Fe wnaeth ganmol Canghellor yr Almaen, Angela Merkel am agor ffiniau’r wlad i ffoaduriaid ond rhybuddiodd fod yn rhaid cael trefn o ddelio â mewnfudo fel bod pobol y wlad yn deall beth sy’n digwydd.