Mae elusen addysg ôl-16 wedi rhybuddio bod y cwymp “sylweddol” yn nifer y staff sy’n cael eu cyflogi gan sefydliadau addysg bellach yn “peryglu” gallu Cymru i gystadlu yn y sector.
Yn ymateb i’r cwymp yn lefelau’r staff, mae ColegauCymru wedi dweud bod yn rhaid atal arbenigedd addysgol Cymru yn y sector addysg bellach rhag dirywio.
Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, fe wnaeth 665 o staff ledled Cymru golli eu swyddi yn y maes.
Ac mae’r elusen yn rhybuddio dros effaith cannoedd o staff sydd eisoes wedi gadael o ganlyniad i uno ac ad-drefnu.
Er bod cyfran staff addysg a dysgu mewn colegau wedi parhau’n sefydlog, ar tua 71% o gyfanswm y staff i gyd, mae’r Coleg yn rhybuddio bod cyllidebau tynn colegau yn peryglu holl staff y sefydliadau.
Bu nifer y staff gweinyddu a gwasanaethau canolog ostwng o 14% yn 2013/14 i 12% yn 2014/15, ac mae’r cwymp cyffredinol yn 7.3%.
“Peryglu dyfodol pobol ifanc”
“Mae cyflogi llai o staff yn y colegau’n arwain at lai o gyfleoedd dysgu. Mae hyn yn peryglu dyfodol cynifer o bobl ifanc ac yn difetha cyfleoedd unigolion sy’n edrych i ailsgilio neu newid gyrfa,” meddai Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru.
“Mae colegau addysg bellach yn allweddol i sbarduno’r economi. Maen nhw’n cefnogi pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd i godi eu lefelau sgiliau a’u paratoi ar gyfer addysg uwch, cyflogaeth, dyrchafiad ac entrepreneuriaeth.”
Ychwanegodd fod angen i fyfyrwyr gael cefnogaeth gan staff mewn gwasanaethau canolog, yn ogystal â staff dysgu ac addysgu.
“Mae’r colegau wedi tynhau’u gwregysau, wedi arbed ar wasanaethau’r ystafell gefn ac wedi dod yn fwy effeithlon. Ond mae colli cynifer o staff mewn un flwyddyn academaidd yn golygu bod Cymru’n dlotach o’r herwydd,” meddai, gan rybuddio na all golegau ymdopi â rhagor o doriadau.
“Mae’r colegau’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru ac Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni newid. Rhaid i’r newid hwnnw atal y cyfalaf dynol proffesiynol rhag pylu o’n model colegau dielw.”