Mae cwmni dur Liberty House wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n ailagor un o’i safleoedd gwaith dur yng nghymoedd de Cymru fis nesaf.
Cafodd y gwaith dur yn Nhredegar ei gau gan weinyddwyr yn 2015, ac roedd yn cyflogi 17 o weithwyr.
Bellach, mae cwmni Liberty House wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ailagor y safle fel rhan o’u hymgais i weddnewid y diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y safle’n cael ei agor ym mis Mehefin, a dyma’r seithfed safle i’r cwmni ailagor ym Mhrydain dros y misoedd diwethaf.
‘Newyddion gwych’
Bwriad Liberty House, a brynodd y safle oddi wrth gwmni Caparo yn wreiddiol, yw defnyddio’r safle i gynhyrchu darnau metel gan gynnwys pibau dur – drwy uwch-gylchu hen fetel sy’n rhan o’u rhaglen ‘Greensteel’.
Fe fyddan nhw hefyd yn defnyddio coiliau rholio o’r felin rolio gerllaw yng Nghasnewydd, a ail-agorwyd gan yr un cwmni ym mis Hydref y llynedd.
Yn ôl perchennog Liberty House, Sanjeev Gupta: “Mae hwn yn newyddion gwych i ddiwydiant dur y DU ac i’r gweithwyr sydd â’r sgiliau yn ne Cymru.
“Bydd Tredegar unwaith eto yn darparu tiwbiau dur yn ddiwydiannol.”
Esboniodd fod y tiwbiau dur yn “gyswllt hollbwysig yn y gadwyn gyflenwi.”
Yn ôl y cwmni, maen nhw eisoes wedi cysylltu â gweithwyr a arferai weithio yno i drafod cyflogaeth, ac maen nhw’n bwriadu cynnig cyfleoedd i brentisiaid hefyd, ond nid yw’r nifer o swyddi wedi’u cadarnhau eto.