Llun: PA
Mae diogelwch mewn carchardai wedi gwaethygu’n “sylweddol” er gwaethaf ymdrechion diweddar i wella eu cyflwr, yn ôl adroddiad newydd.

Er bod mesurau newydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Prydain, mae nifer yr ymosodiadau, achosion o hunan-niweidio a charcharorion yn lladd eu hunain wedi cynyddu.

Mae hynny, meddai Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, yn codi pryderon am yr effaith posib ar gynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i leihau lefelau o achosion o ail-droseddu.

Roedd cynlluniau a gafodd eu cyflwyno gan David Cameron y llynedd yn cynnwys creu carchardai “diwygio” newydd, creu cynghrair i asesu carchardai a rhoi mwy o bŵer i lywodraethwyr.

Roedd y Gweinidog Cyfiawnder, Michael Gove, hefyd am ddiwygio’r system addysg mewn carchardai a chynyddu nifer y carcharorion sy’n cael eu rhyddhau ar drwydded dros dro.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bob Neill AS, ei bod hi’n “hanfodol” i weithredu’n syth, gan ddweud y gallai wneud dim arwain at “danseilio” unrhyw newidiadau i’r system garchardai yn y dyfodol.

Cynnydd mewn trais a hunanladdiad

Mae’r data’n dangos y bu 100 o garcharorion farw yng Nghymru a Lloegr y llynedd hyd at fis Mawrth, sy’n cael eu cofnodi fel hunanladdiadau – y lefel uchaf ers dros ddegawd.

Bu dros 20,000 o ymosodiadau mewn 12 mis hyd at fis Rhagfyr, cynnydd o 27% o flwyddyn i flwyddyn, a bu bron i 5,000 o ymosodiadau ar staff, cynnydd o dros draean o gymharu â 2014.