Gosod blodau ar y traeth yn Sousse, Tunisia, lle cafodd 38 eu lladd Llun: PA
Fe fydd  dyn a wnaeth oroesi ymosodiadau brawchyol Tiwnisia’r llynedd yn cael ei anrhydeddu â Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf heddiw am ei ddewrder.

Cafodd Matthew James o Bontypridd ei saethu tair gwaith y llynedd, wedi iddo gamu o flaen ei ddyweddi, Saera Wilson, i’w gwarchod hi.

Cafodd y tad i ddau o blant ei gludo i ysbyty yn Nhiwnisia a’i drin gan lawfeddygon cyn dychwelyd i Gymru.

Wrth siarad am ei brofiadau’r llynedd, dywedodd Matthew James ei fod wedi gweld y dyn arfog, Seifeddine Rezgui, yn tanio gwn at dwristiaid wrth iddyn nhw dorheulo ar y traeth yn Sousse, ac nad oedd “unrhyw emosiwn ar ei wyneb” wrth iddo ladd 38 o bobl.

Roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Bydd Matthew James yn cael ei anrhydeddu heddiw mewn seremoni arbennig, a Rhyddfraint yw’r anrhydedd mwyaf y gall awdurdod lleol ei gyflwyno am gyrhaeddiad arbennig.