Mae Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaethau trenau rhwng maes awyr Manceinion a gogledd Cymru yn treblu o heddiw ymlaen.
Cafodd y cais i ymestyn y gwasanaeth ei gymeradwyo gan y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd, sy’n golygu y bydd 57 taith yr wythnos yn cael eu cynnal rhwng y gogledd a maes awyr Manceinion, o gymharu â 17 ar hyn o bryd.
“Byddwn ni nawr yn rhedeg 40 gwasanaeth trên ychwanegol bob wythnos o ogledd Cymru i’r maes awyr ac yn ôl,” meddai Ian Bullock, rheolwr gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru.
“Rydym yn hynod falch fod y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd wedi cymeradwyo ein cais am yr hawl i ehangu’r gwasanaethau i Faes Awyr Manceinion,” ychwanegodd.
Dywedodd fod nifer o gwsmeriaid, rhan-ddeiliaid ac Aelodau Cynulliad a Seneddol lleol wedi cefnogi’r syniad, gan bwysleisio fod buddiannau economaidd wrth gysylltu gogledd Cymru â’r maes awyr a “gweddill y byd.”
Yn ôl ffigurau’r awdurdod hedfan sifil, fe wnaeth mwy na 849,000 o bobol Cymru ddefnyddio maes awyr Manceinion yn 2014.