Mae’r Gweinidog dros Gyflogaeth wedi rhybuddio nad oes “dim sicrwydd” tros ddyfodol fframwaith gyllido’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer Cymru ar ôl 2020.
Mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, rhybuddiodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Priti Patel, fod Comisiwn yr UE wedi “ystyried” toriadau i Gymru o’r blaen, a bod hynny’n bosibl eto.
Dywedodd fod y Comisiwn wedi ystyried torri 27% o fframwaith gyllido Cymru rhwng 2014 a 2020. Ond, cafodd hwnnw ei wyrdroi gan Lywodraeth y DU wrth iddyn nhw ail-leoli cyllid oedd ar gyfer Lloegr i Gymru er mwyn osgoi’r diffyg.
Ychwanegodd Priti Patel fod “diffyg gwybodaeth am Gymru” yn golygu y gallai Comisiwn yr UE geisio cyflwyno “toriadau creulon”.
Mae’n rhybuddio hefyd y byddai aelodaeth Twrci o’r UE yn gadael Cymru a’r DU mewn sefyllfa waeth o ran toriadau i’w cyllidebau wedi 2020.
Bydd Priti Patel yn ymweld â Chanolfan y Mileniwm heddiw ar gyfer cynhadledd ar gyflogaeth, ac mae’n siarad ar ran yr ymgyrch tros adael yr UE, Vote Leave.
Cyllid 2020 ‘heb ei gadarnhau’
Yn dilyn yr ymgais i dorri 27% o’r fframwaith gyllido i Gymru, dywedodd Priti Patel eu bod wedi “cydbwyso’r diffyg”, ond bod “gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn dal i wynebu toriad o 16%.”
“Mae’r ffaith fod Comisiwn yr UE wedi cynllunio i fwrw Cymru’n galed â thoriadau’n dangos y byddai Cymru ar eu hennill o fod allan o’r UE, gyda dyfodol cyllidol y math yma o brosiectau yn nwylo gwleidyddion sy’n atebol i’r etholaeth Gymreig.”
Ychwanegodd nad oes sicrwydd i’r cyllid wedi 2020, gyda’r Canghellor yn ategu nad yw dosraniad cyllidebau’r UE ar gyfer datblygu rhanbarthol (ERDF) na chyllid cymdeithasol (ESF) wedi’u cadarnhau eto.
‘Adennill rheolaeth’
“Fe wnaeth y UE gynllunio toriad dwfn o’r blaen, ac fe wnânt hynny eto,” meddai Priti Patel.
“Yr unig ffordd i rwystro hyn rhag digwydd yw rhoi dewis rhydd ar sut i wario’r arian i’r llywodraethau yng Nghaerdydd a Whitehall, a hynny drwy bleidleisio i adennill rheolaeth a gadael yr UE.”
Cyfeiriodd hefyd at sefyllfa’r diwydiant dur yng Nghymru gan ddweud fod yr UE yn “cyfyngu” ar ymateb llywodraethau San Steffan a Chaerdydd.
“Does gennym ddim pwerau chwaith i osod tariffau i ddiogelu busnesau Cymru a’r DU rhag dympio o China. Pan mae diwydiant pwysig Cymreig angen help yn y dyfodol, fe fyddwn ni mewn sefyllfa llawer gwannach i helpu wrth barhau’n rhan o’r UE.”