Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Donald Trump wedi rhybuddio nad yw’n debygol y bydd ganddo “berthynas dda iawn” gyda David Cameron ar ôl i’r Prif Weinidog feirniadu ei sylwadau am Fwslimiaid.
Roedd y biliwnydd wedi awgrymu y byddai’n gwahardd Mwslimiaid dros dro rhag teithio i’r Unol Daleithiau. Fe ymateb David Cameron drwy ddweud bod ei sylwadau yn “ffôl”.
Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr hefyd wedi beirniadu Maer newydd Llundain, Sadiq Khan, gan ei alw’n “anwybodus” am y sylwadau a wnaeth ar ôl cael ei ethol. Fe rybuddiodd Trump ar raglen Good Morning Britain ar ITV y byddai’n “cofio’r sylwadau hynny.”
Mae’n ymddangos y bydd Trump yn mynd benben a’r Democrat Hillary Clinton yn y ras am y Tŷ Gwyn ym mis Tachwedd.