Carwyn Jones a Leanne Wood
Mae disgwyl i Lafur a Phlaid Cymru gynnal trafodaethau pellach heddiw gyda’r bwriad o ethol Prif Weinidog i Gymru’r wythnos hon.
Daw hyn wedi i Carwyn Jones fethu â sicrhau digon o bleidleisiau yn y siambr yr wythnos diwethaf i gael ei ailethol yn Brif Weinidog.
Fe gefnogodd Aelodau Cynulliad Ukip a’r Ceidwadwyr enwebiad Leanne Wood, ond cafwyd canlyniad cyfartal o 29 pleidlais yr un i Carwyn Jones a Leanne Wood.
Roedd unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi cefnogi Carwyn Jones.
Mae gan Aelodau Cynulliad bedair wythnos i ethol arweinydd i Gymru, a hynny erbyn Mehefin 1. Fel arall, bydd rhaid cynnal etholiad cyffredinol arall.
Wedi i’r Prif Weinidog gael ei enwebu gan Aelodau’r Cynulliad, fe fydd yn cael ei benodi gan y Frenhines.
Mae’n debyg fod Plaid Cymru’n “anhapus” â phenderfyniad Llafur yr wythnos diwethaf i gynnal pleidlais am Brif Weinidog yn syth, a hynny heb “drafod digon” o ystyried mai llywodraeth leiafrifol sydd ganddyn nhw.