Stadiwm Old Trafford
Mae ’na alw am ymchwiliad llawn ar ôl i gwmni diogelwch adael bom ffug drwy ddamwain yn Old Trafford gan arwain at wagio’r stadiwm.

Mae Maer a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion, Tony Lloyd, wedi dweud bod y digwyddiad yn “ffiasgo” a bod pobl wedi cael eu rhoi mewn perygl.

Cafodd arbenigwyr difa bomiau eu galw i’r stadiwm tua 3yp bnawn dydd Sul ar ôl i’r ddyfais gael ei ddarganfod mewn toilet funudau’n unig cyn i Manchester United fynd ar y cae. Bu’n rhaid gwagio’r stadiwm a gohirio gêm Uwch Gynghrair Barclays yn erbyn Bournemouth.

Dywed yr heddlu bod y bom ffug wedi cael ei adael gan “gwmni preifat” ar ol cynnal ymarferiad gyda chwn yn gynharach.

Mae cefnogwyr pêl-droed wedi canmol yr heddlu a’r swyddogion diogelwch am eu hymateb i’r digwyddiad.

Ond mae Tony Lloyd wedi dweud bod y sefyllfa yn “warthus” ac mae wedi galw am ymchwiliad brys i ddarganfod “sut y digwyddodd hyn, pam y digwyddodd a phwy fydd yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Dywedodd Ed Woodward, is-gadeirydd Manchester United, y bydd y clwb yn “ymchwilio i’r digwyddiad er mwyn penderfynu ar weithredoedd a phenderfyniadau yn y dyfodol.”

Fe fydd y gêm nawr yn cael ei chwarae nos Fawrth am 8yh.