Mae 15 o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i fws deulawr daro i mewn i siop yn Llundain.

Mae dau o bobol mewn cyflwr difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad ar stryd fawr Harlesden yng ngogledd orllewin Llundain am oddeutu 2 o’r gloch.

Mae adeilad siop wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol ac mae’r awdurdodau’n galw ar bobol i gadw draw o’r ardal am y tro.