Mae arbenigwyr wedi ffrwydro dyfais yng nghae pêl-droed Old Trafford ar ddiwrnod olaf tymor yr Uwch Gynghrair.

Ond mae hi bellach wedi dod i’r amlwg nad oedd y ddyfais yn hyfyw.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i archwilio’r stadiwm yn llawn.

Cafodd gêm Man U yn erbyn Bournemouth ei gohirio ar ôl i “ddyfais amheus” gael ei darganfod yn y stadiwm.

Bu’n rhaid i gefnogwyr adael y stadiwm ryw 20 munud cyn amser dechrau’r gêm.

Daeth cadarnhad yn fuan wedyn bod y ddyfais wedi cael ei ffrwydro’n ddiogel.

Mae’r ffaith fod Man City wedi cael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Abertawe yn golygu ei bod hi’n annhebygol y bydd Man U yn cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd Man U a Bournemouth yn gorfod chwarae yn erbyn ei gilydd.