Abertawe 1–1 Man City                                                                   

Gorffennodd Abertawe’r tymor gyda gêm gyfartal gartref yn erbyn Man City ar y Liberty brynhawn Sul.

Unionodd Andre Ayew i’r Elyrch toc cyn yr egwyl wedi i Kelechi Iheanacho roi’r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar.

Pum munud a oedd ar y cloc pan agorodd Iheanacho y sgorio. Llwyddodd Kristoffer Nordfeldt yn y gôl i Abertawe i arbed cynnig Sergio Aguero yn dilyn gwaith da Kevin De Bruyne ond adlamodd y bêl i lwybr Iheanacho a sgoriodd y blaenwr ifanc.

Man City a oedd y tîm gorau am weddill yr hanner hefyd ond roeddynt yn wastraffus gyda’i cyfleoedd.

A chawsant eu cosbi yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner pan wyrodd cic rydd Ayew oddi ar y wal amddiffynnol ac i gefn y rhwyd.

Roedd cyfleoedd yn bethau prin yn yr ail hanner wrth i’r ddau dîm fodloni ar gêm gyfartal.

Mae’r pwynt fwy neu lai yn ddigon i sicrhau lle City yn y pedwar uchaf ac yn golygu fod Abertawe yn gorffen y tymor yn ddeuddegfed.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Rangel, Fernandez, Amat, Kingsley, Cork, Britton, Fer, Routledge (Barrow 58’), Ayew, Montero (Gomis 83’)

Gôl: Ayew 45’

Cerdyn Melyn: Britton 74’

.

Man City

Tîm: Hart, Sagna, Otamendi, Mangala, Clichy, Jesus Navas, Fernando, Fernandinho, De Bruyne, Iheanacho (Nasri 72’), Aguero (Toure 90’)

Gôl: Iheanacho 5’

Cardiau Melyn: Iheanacho 41’, Otamendi 45’, Sagna 67’

.

Torf: 20,934