Richard Tolkien (Llun: Wikipedia)
Mae hwyliwr o wledydd Prydain wedi’i orfodi i roi’r gorau i’w daith ar draws For Iwerydd, wedi iddo gael ei daro yn ei ben gan un o hwyliau ei gwch ei hun.

Fe fu’n rhaid i Richard Tolkien gael ei achub gan long cargo yn ystod ei ras o Plymouth i Efrog Newydd. Roedd wedi galw am help tua 8.45yh nos Wener

Fe gafodd ei godi gan y llong, Anton Topic, tua 10.40yh, ac fe dderbyniodd driniaeth i’w anafiadau arni.

Mae Richard Tolkien yn dweud iddo ruthro i fyny i’r dec wedi iddo glywed “bang mawr”. Swn un o’i hwyliau yn torri oedd hwnnw.