Mae dyn sy’n cael ei amau o ladrata wedi cael ei arestio – wedi i’r heddlu ddod o hyd iddo’n sownd mewn ffenest agored.

Y gred ydi fod y lleidr honedig wedi’i ddal wrth iddo geisio torri i mewn i adeilad yn Kettering ben bore heddiw.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, meddai Ystafell Reoli Heddlu Swydd Northampton: “Digwyddiad cynta’r dydd. Lleidr yn sownd mewn ffenest! Un wedi’i arestio.”

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 6.30yb i gyfeiriad yn Barnwell Street, Kettering, wedi i berchnogion y ty gael eu deffro gan swn mawr… cyn gweld bod dyn yn sownd yn un o ffenestri llawr daear eu cartref.

Fe gafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ladrata ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant.