Mae 23 o bobol wedi cael eu hachub o fferi, wedi i’r bad fod mewn gwrthdrawiad gyda phier yn Hampshire.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Hythe neithiwr, gan achosi difrod mawr i rai o adeiladau’r glannau yno.

Chafodd neb ei anafu’n ddifrifol, er bod 20 o deithwyr a thri aelod o’r criw wedi gorfod cael eu hachub o’r fferi.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 9.20yh, ac fe anfonwyd criwiau o Southampton a Lymington i ymateb i’r digwyddia, ynghyd â Bad Achub Calshot.