Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) wedi rhybuddio mai Brexit yw’r bygythiad mwyaf i economi’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl y Canghellor George Osborne, dywedodd y sefydliad y byddai’r cam yn “costio arian” i Brydain ac y byddai’n arwain at “ansicrwydd” yn yr economi.

Byddai ymateb y farchnad ryngwladol i adael yr Undeb yn y refferendwm ar 23 Mehefin yn debygol o fod yn “negyddol a gallai fod yn ddifrifol”, ychwanegodd yr IMF, mewn adroddiad ar ragolygon economaidd gwledydd Prydain.

“Mae’r IMF yn glir iawn heddiw – byddai’r effaith y gallwn ddisgwyl ar dwf (yr economi) o bleidleisio i adael yn costio mwy na’r hyn byddwn yn ei ennill drwy beidio â chyfrannu i gyllideb yr UE,” meddai George Osborne.

“Yn syml, mae’r IMF yn dweud y byddai pleidlais i adael yn costio arian i ni.”