Bob Parry
Mae cynghorwyr wedi ethol ffermwr adnabyddus yn Gadeirydd newydd Cyngor Môn.

Y Cynghorydd Bob Parry o Blaid Cymru, cyn-ddeilydd portffolio Amgylcheddol a Chynllunio yn y Cabinet, fydd yn cymryd yr awenau, wedi etholiad unfrydol o gyfarfod llawn y Cyngor.

Cafodd cadwyn y cyn-Gadeirydd, Vaughan Hughes, ei dwyn o’i gartref y llynedd mewn lladrad “oedd wedi’i dargedu”.

Does dim gwybodaeth eto os yw’r heddlu wedi dod o hyd i’r gadwyn honno.

Mae’r cyngor wedi dweud wrth golwg360 bod cadwyn newydd wedi ei phrynu ar gost o £30,263.50 + TAW.

“Hawlwyd y gôst ac eithrio’r £100 cyntaf (sef yr “excess”) gan ein hyswirwyr ac mae’r hawliad wedi ei setlo,” meddai llefarydd.

Bob Parry

Mae Bob Parry wedi bod yn gynghorydd ers 1981, ac erbyn hyn yn cynrychioli ward aml-aelod yng Nghanolbarth Môn.

Bu hefyd yn Llywydd Cenedlaethol Amaethwyr Cymru am 12 mlynedd a chafodd OBE yn 1994 am ei gyfraniad tuag at ddiwydiant amaeth Cymru.

“Mae cael fy ethol fel Cadeirydd y Cyngor Sir yn anrhydedd fawr,” meddai Bob Parry.

“Byddaf yn ymdrechu i ad-dalu’r ffydd mae fy nghyd-aelodau wedi dangos ynddo i ac edrychaf ymlaen gael cynrychioli’r sir a’i phobl yn ystod y flwyddyn o’m blaen.”

Bob Parry yw Cyfarwyddwr menter gymdeithasol Bryngwran Cymunedol sydd yn rhedeg tafarn yr Iorwerth Arms yn y pentref.

Cafodd y Cynghorydd Richard Owain Jones, sydd yn cynrychioli ward Twrcelyn, ei ethol yn is-Gadeirydd y Cyngor Sir.