Michael Gove, un o'r prif ymgyrchwyr dros adael yr Undeb Ewropeaidd
Fe fydd y mwyafrif o Albanwyr yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl un o’r prif ymgyrchwyr dros adael, Michael Gove.
Dywedodd un o gyd-sylfaenwyr ymgyrch Vote Leave nad yw’r Alban yn llai beirniadol o’r Undeb Ewropeaidd na’r un o wledydd eraill Prydain, ac fe wfftiodd yr awgrym y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain at ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.
Dywedodd Gove, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder sy’n hanu o Gaeredin, wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Pan fyddwn ni’n pleidleisio dros adael, rwy’n credu y bydd y mwyafrif o bobol yn yr Alban hefyd yn pleidleisio dros adael.
“Ac rwy’n credu pan fyddwn ni’n pleidleisio dros adael mi fydd yn glir ar ôl pleidleisio dros adael un undeb mai’r peth diwethaf fydd pobol yr Alban am ei wneud yw torri un arall i fyny.”
Dywedodd fod prisiau olew ar hyn o bryd yn golygu nad oes galw am adael Prydain, ond fe gyfaddefodd fod cenedlaetholdeb yn yr Alban ar gynnydd ers i Brydain ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.
Ond fe wrthododd ddweud a fyddai Llywodraeth Prydain yn ceisio atal ail refferendwm annibyniaeth pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.