Cafodd diffoddwyr o Lanelli a Threforys eu galw
Mae ymchwiliad ar y gweill i dân wnaeth ddinistrio rhan o adeilad ffatri yn Llanelli ddydd Sadwrn.

Cafodd strwythur adeilad AMG Resources yn Noc Nevills ei niweidio am oddeutu 3.20 y prynhawn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe fu diffoddwyr o Lanelli a Threforys ger Abertawe’n ceisio rheoli’r tân.

Cafodd ei ddiffodd yn y pen draw am 8.20 y nos.