Sadiq Khan yn cyrraedd y cyfrif yn neuadd y ddinas yn Llundain ddoe gyda'i wraig Saadia ac aelodau o'i dîm ymgyrch (llun: PA)
Mae Sadiq Khan o’r blaid Lafur wedi cael ei ethol yn faer Llundain a hynny o fwyafrif mawr.

Cafodd 44% o’r pleidleisiau yn y rownd gyntaf yn erbyn ei brif wrthwynebydd, y Tori Zac Goldsmith, a gafodd 35%. Ar ôl ailddosbarthu pleidleisiau’r ymgeiswyr eraill, aeth pleidlais Sadiq Khan i fyny i 57%.

Addawodd fod yn faer i bawb sy’n byw yn Llundain.

“Wnes i erioed feddwl y gallai rhywun fel fi, mab i fewnfudwr a gafodd ei godi ar stad cyngor, gael ei ethol yn faer,” meddai.

Mae buddugoliaeth Sadiq Khan, ynghyd â llwyddiant Llafur yng Nghymru, yn rhyddhad i Jeremy Corbyn, ar ôl diwrnod gwael i’r blaid Lafur yn Lloegr a’r Alban.

Methodd Llafur â chynyddu nifer ei seddau yn etholiadau cynghorau Lloegr, a daeth yn drydydd ar ôl y Torïaid yn etholiad senedd yr Alban. Collodd 11 sedd i’r SNP yno a dwy i’r Torïaid.

Ac yntau eisoes yn wynebu beirniadaeth o fewn ei blaid ei hun am y methiannau hyn, byddai methu â chipio Llundain wedi bod yn ergyd ddifrifol i Corbyn.

Mae Sadiq Khan yn olynu Boris Johnson fel maer Llundain, swydd yr oedd wedi ei dal ers curo Ken Livingstone yn 2008.