Kirsty Williams Llun: Gwefan y Dems Rhydd
Mae Kirsty Williams wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar ôl i’r blaid golli pob un o’i seddi ar wahân i un yn y Cynulliad.
Er iddi ddal ei gafael ar ei sedd ym Mrycheiniog a Maesyfed gan gynyddu ei mwyafrif, fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol bedair sedd yn etholiadau’r Cynulliad ddoe.
Mewn llythyr yn cyhoeddi ei phenderfyniad dywedodd: “Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, ac ymgyrch gadarnhaol, nid yw wedi bod yn ddigon,” gan ychwanegu: “Mae’n rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb.”
‘Anrhydedd’
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron bod yn ddrwg ganddo fod Kirsty Williams wedi ymddiswyddo ond ei fod yn “sicr y bydd Kirsty yn chwarae rôl allweddol yn y blaid yn y dyfodol.”
Roedd Kirsty Williams wedi bod yn arweinydd y blaid ers wyth mlynedd a dywedodd yn ei llythyr ei fod wedi bod yn “anrhydedd”.
Mae’r blaid yn dal i ddioddef yn sgil y penderfyniad i ffurfio Llywodraeth Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn 2010, meddai.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ar Twitter: “Mae Kirsty wedi bod yn arweinydd ardderchog. Ben ac ysgwydd uwchben arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru. Diolch am bopeth rwyt ti wedi ei wneud.”