Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Mae’r tîm o reolwyr Tata sydd wedi dangos diddordeb mewn prynu Tata Steel ym Mhrydian wedi crybwyll y gallai gael gwared ar 1,000 o swyddi os bydd yn llwyddiannus.
Dywedodd Excalibur Steel UK fod ei gynigion yn seiliedig ar “ail-adeiladu” y trefniadau sydd o fewn y cwmni eisoes.
Mae undebau wedi codi pryderon ynghylch swyddi yn cael eu torri ar safleoedd Tata, gan gynnwys yn safle dur mwyaf Cymru ym Mhort Talbot, lle mae tua 4,000 o weithwyr.
Dau gynnig sydd wedi dod gerbron i brynu’r busnes, a hynny gan Exalibut a chwmni Liberty House.
Dywedodd Excalibur mewn datganiad y byddai creu busnes mwy effeithlon yn gallu effeithio ar hyd at 1,000 o swyddi.
‘Pryderon’ i weithwyr dur
“Mae’r rhain yn adroddiadau sy’n codi pryder i weithwyr dur, sydd eisoes yn wynebu ansicrwydd,” meddai Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community.
“Dy’n ni heb gael trafodaethau ag Excalibur o gwbl am golledion swyddi ychwanegol.”
Ychwanegodd fod y newyddion yn “syndod o ystyried bod eu cynnig yn seiliedig ar y cynllun gwreiddiol, oedd yn cynnwys ailstrwythuro 1,050 o swyddi”.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Unite, Tony Burke, fod amddiffyn swyddi yng Nghymru a thu hwnt yn dal i fod yn “flaenoriaeth” i’w aelodau.
“Byddwn yn gofyn am fanylion yn uniongyrchol gan Excalibur a Liberty House ar eu cynigion dros y dyddiau nesaf, gan gynnwys eu cynlluniau ar gyfer lefelau diweithdra ledled y DU,” meddai.