Er bod Nicola Sturgeon wedi arwain yr SNP at drydydd tymor mewn grym yn senedd Holyrood, stori fawr etholiad Yr Alban yw’r cynnydd anferth yn y gefnogaeth i’r Blaid Geidwadol.

O dan arweiniad Ruth Davidson, a gipiodd sedd Canol Caeredin yn groes i’r disgwyl, mae’r Torïaid wedi goddiweddyd Llafur i fod yr ail blaid fwyaf.

Enillodd y Ceidwadwyr 31 o Aelodau Senedd yr Alban, o’i gymharu â 15 yn etholiad 2011.

Enillodd yr SNP 63 o’r 129 o seddi ar gael, gan fethu â sicrhau mwyafrif – chwech yn llai na’r 69 a gipiwyd yn 2011.

Fe wnaeth y Blaid Llafur ddioddef canlyniad siomedig arall, gyda’r blaid yn ennill 24 o seddi – gostyngiad o 13 o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl. Dyma eu perfformiad gwaethaf mewn etholiad yn y wlad ers canrif a mwy.

Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd, yn union fel yn 2011, tra bod Plaid Werdd yr Alban wedi sicrhau chwe sedd gan gynnwys un i Ross Greer sydd ond yn 21 mlwydd oed.